Grantiau Cymunedol

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn English

Mae ceisiadau i Raglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt wedi cau.

 

Two women working on a garden bed

Llun: Prosiect blaenorol a ariannwyd gan Tyfu’n Wyllt @heath_hands  Credyd llun: Ines Stuart-Davidson/RBG Kew 

 

Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol, ieuenctid neu wirfoddol? Oes gan eich grŵp syniad prosiect i helpu i gysylltu pobl leol gyda’r byd naturiol? Ydych chi’n gwybod am ofod trefol fyddai’n ddelfrydol i’w drawsnewid? 

Os yw eich ateb i’r uchod yn gadarnhaol – ymgeisiwch i ymuno â Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt a dod â syniadau eich grŵp yn fyw. Byddwch yn cefnogi cennad Tyfu’n Wyllt i ddod â phobl at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau planhigion brodorol y DU. 

Dyddiad cau i ymgeisio: 10am Dydd Gwener 24ain Mawrth 

 

Beth yw Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt? 

Yn y DU, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth wych o rywogaethau o blanhigion brodorol. Maen nhw nid yn unig yn cyflwyno lliw a diddordeb i’n bywydau, ond maent hefyd yn darparu ffynonellau bwyd allweddol a lloches ar gyfer ein pryfed, ein hadar a bywyd gwyllt arall.   

Er eu bod yn werth chweil i’w tyfu a’u profi, yn anffodus mae llawer o’n rhywogaethau brodorol yn y DU yn dirywio, yn enwedig mewn ardaloedd mwy trefol. 

Mae Tyfu’n Wyllt yn chwilio am saith grŵp o bob cwr o’r DU hoffai ein helpu i newid hyn, trwy drawsnewid ardal drefol trwy blannu a chymryd camau cadarnhaol dros natur. 

Rydym yn chwilio am grwpiau fydd yn cynnwys pobl eraill yn eu prosiect a chreu trawsnewidiadau fydd o fudd i’w cymuned ehangach.  

 

Beth allai eich grŵp ei dderbyn? 

  • Grant o £2000 i drawsnewid gofod trefol gyda phlanhigion brodorol y DU. Gallwch hefyd ddefnyddio eich grant i gynnwys pobl eraill yn eich prosiect trwy weithdai, digwyddiadau a gweithgareddau dysgu. 

  • Bydd y grwpiau llwyddiannus yn derbyn eu grant yn ystod mis Mai a bydd angen i brosiectau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2023. 

  • Gwahoddir arweinyddion prosiect y saith grŵp llwyddiannus i ymuno â chyfarfodydd a hyfforddiant ar-lein a hwylusir gan Tyfu’n Wyllt. Bydd y rhain yn gyfleoedd i gysylltu, i glywed am brosiectau eich gilydd ac i rannu profiadau. 

Mae’r cyfle hwn yn fwy na dim ond cefnogaeth ariannol – rydym yn chwilio am grwpiau fydd yn croesawu popeth sydd gan y rhaglen i’w gynnig ac fydd yn awyddus i gyfranogi’n weithredol. 

 

A woman kneeling down in a garden, holding some leaves

Llun: Prosiect blaenorol a ariannwyd gan Tyfu’n Wyllt @cordwainersgrow   Credyd llun: Ines Stuart-Davidson/RBG Kew 

 

Sut i ymgeisio... 

Cam 1 – Gwiriwch bod eich grŵp a’ch syniad prosiect yn gymwys

Cam 2 – Darllenwch ein canllaw i ymgeiswyr

Cam 3 – Ewch ati i sgwrsio a dyfeisio gyda’ch grŵp, i ddatblygu a chynllunio eich syniad am brosiect

Cam 4 – Paratowch ‘gyflwyniad cryno’, fideo 5 munud o hyd, yn dweud wrthym beth ydych am ei wneud a sut y byddwch yn ei wneud

Cam 5 – Cwblhewch a chyflwynwch ein ffurflen gais fer erbyn 10am ar Ddydd Gwener 24ain Mawrth 2023 

Byddem yn argymell edrych trwy gwestiynau’r ffurflen gais mewn da bryd cyn y dyddiad cau, fel y gallwch baratoi'r wybodaeth y gofynnir amdani. Rydym wedi creu rhestr o’r cwestiynau y gallwch ei lawrlwytho a’i ddarllen, i’ch helpu i gael popeth yn barod. 

Tyfu’n Wyllt Grantiau Cymunedol - Cwestiynau 2023.pdf

 

Unwaith i’r dyddiad cau basio, byddwn yn creu rhestr fer o’r ceisiadau sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnom.  

Os bydd hyn yn cynnwys cais eich grŵp chi, yna fe ofynnwn ichi am ragor o fanylion am gynlluniau eich prosiect. Yna, bydd ein panel o arbenigwyr yn dethol y saith grŵp llwyddiannus. 

 

Mwy amdanom ni... 

Tyfu’n Wyllt yw menter ddysgu allgymorth genedlaethol Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Kew. 

Cefnogir prosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt gan Alexander McQueen, sy’n dod â phobl at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau planhigion brodorol y DU.  

 

Community group stand in front of a mural and garden they have created

Llun: Prosiect blaenorol a ariannwyd gan Tyfu’n Wyllt @denmarkhillgarden    Credyd llun: Jeff Eden/RBG Kew 

Canllaw i ymgeiswyr

Gallwn ariannu…

  • Sefydliadau nid-er-elw 

Megis grwpiau gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol. Ysgolion uwchradd, grwpiau trigolion, cymdeithasau cymunedol, awdurdodau / byrddau iechyd.

Sylwer: Os ydych yn ysgol uwchradd, mae’n bwysig bod eich prosiect yn dal i gael ei redeg ac y gellir cysylltu gydag arweinyddion y prosiect yn ystod gwyliau’r ysgol.

Yn anffodus ni ellir derbyn y canlynol…

  •  Ysgolion meithrin neu gynradd
  •  Awdurdodau Lleol
  •  Unig fasnachwyr neu unigolion
  • Prosiectau ble y gellid defnyddio cyllid Tyfu’n Wyllt at fudd masnachol
  • Mudiadau a phrosiectau sydd wedi eu lleoli y tu allan i’r DU.

Mae angen i’ch grŵp fod a…

  • Dau aelod o staff neu wirfoddolwyr fydd yn gallu trafod gyda Tyfu’n Wyllt:
  1. Prif gyswllt prosiect. Y person fydd yn gyfrifol am drosglwyddo’r prosiect a’r prif berson cyswllt ar gyfer Tyfu’n Wyllt.
  2. Ail gyswllt. Yn ddelfrydol, rhywun mewn uwch-swyddogaeth ac sy’n ariannol atebol, e.e. ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr.

Bydd angen i’r personau cyswllt hyn fod yn 18 oed neu drosodd ac ni allant berthyn i’w gilydd trwy unrhyw gysylltiad teuluol.

  • Cyfansoddiad diweddar, neu ddogfen lywodraethu debyg, sy’n amlinellu eich pwrpas, nodau ac amcanion. Dylai hon fod wedi ei chytuno a’i harwyddo gan fwrdd eich grŵp.
  • Ei gyfrif banc ei hun, yn enw eich grŵp. Byddwn angen gweld tystiolaeth o hyn cyn inni dalu eich grant.
  • Gofynnwch am ganiatâd perchennog y tir. Ble fydd syniad eich prosiect yn cynnwys trawsnewid gofod neu gynnal gweithgareddau ar dir sydd ddim yn berchen i chi, byddwch angen caniatâd perchennog y tir. Fe ofynnwn ichi gyflwyno cadarnhad eich bod wedi derbyn y caniatâd hwn wrth ymgeisio.
  • Y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol yn eu lle, er mwyn sicrhau y gallwch gwblhau eich prosiect yn ddiogel ac yn gyfrifol. Dyma restr o’r hyn fyddwn ei angen:
  1. Polisi cyfle cyfartal
  2. Polisi a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion agored i niwed
  3. Polisi iechyd a diogelwch, yn cynnwys Covid-19
  4. Canllawiau gwirfoddoli - os yn bwysig i’r prosiect
  5. Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, sy’n briodol ar gyfer gweithgareddau’r prosiect.

Sylwer: Gofynnir ichi lanlwytho eich polisi a gweithdrefnau diogelu wrth ymgeisio. Fyddwn ni ddim angen gweld tystiolaeth o’r polisïau eraill ar y rhestr yn ystod y cyfnod ymgeisio, ond gallwn ofyn amdanynt yn nes ymlaen.

purple and yellow flowers growing in a field

Prosiectau sy’n canolbwyntio ar blanhigion brodorol y DU, gan helpu pobl eraill i ddeall eu pwysigrwydd ar gyfer yr amgylchedd a’n bywydau.    

Prosiectau fydd yn trawsnewid gofod trefol. Gallai hwn fod mewn lleoliad unigol, fel gardd yn eich canolfan gymunedol leol. Fel arall, gallech drawsnewid nifer o leoliadau llai o faint a gysylltir trwy weithgarwch eich prosiect.

  Sylwer – ni allwn ariannu prosiectau mewn ardaloedd gwledig.  

Prosiectau sy’n anelu i gyfoethogi bioamrywiaeth, gyda phlannu / tyfu fel gweithgaredd craidd. ’Does dim rhaid mai tyfu yw eich unig weithgaredd, ond dylai fod wrth galon eich prosiect. Rydym yn awyddus i ariannu prosiectau fydd yn annog natur i ffynnu, gan gael effaith positif ar gyfer pryfed peillio, adar a bywyd gwyllt arall.

Prosiectau gaiff eu harwain gan grwpiau sy’n malio am yr amgylchedd ac fydd yn defnyddio deunyddiau ac arferion cynaliadwy. Fel rhan o hyn, byddwn yn gofyn i bob grŵp llwyddiannus ymrwymo i ddim ond prynu compost di-fawn. Ar y ffurflen gais byddwn yn gofyn ichi hefyd ddweud wrthym am unrhyw gamau eraill y byddwch yn eu cymryd i fod yn amgylcheddol gyfeillgar. Er enghraifft, defnyddio deunyddiau eilgylch, prynu’n lleol, compostio, gosod casgen casglu dŵr, peidio defnyddio plaladdwyr ayyb.

Prosiectau sydd â’r potensial i gyrraedd o leiaf 300 o bobl. Efallai bod hwn yn ymddangos yn rif mawr, ond fydd hi dim yn rhy anodd i’w gyrraedd gyda’r cyfryngau cymdeithasol i’ch helpu. Byddwn yn edrych i weld sut fydd pobl eraill yn elwa o’ch syniad prosiect, felly meddyliwch am ansawdd ac effaith yr hyn fyddwch yn ei gynnig. 

Prosiectau fydd yn gweithio gydag un neu fwy o gynulleidfaoedd targed Tyfu’n Wyllt:

  •  Pobl ifanc 12-25 oed 

  • Pobl sy’n profi rhyw fath o anfantais neu lai o fynediad i wasanaethau  

  • Pobl sy’n ymgysylltu llai gydag eraill yn eu cymuned leol  

  • Pobl sy’n wynebu rhwystrau i gysylltu gyda natur 

  • Pobl anabl. 

Prosiectau gaiff eu harwain gan grwpiau sy’n awyddus i gysylltu. Gwahoddir arweinyddion prosiectau i rannu eu profiadau gyda grwpiau llwyddiannus eraill a mynychu digwyddiadau a hyfforddiant ar-lein a hwylusir gan Tyfu’n Wyllt.    Mae’n bosibl y bydd gan rai o’n sesiynau hyfforddiant ar-lein weithgareddau dilynol hefyd i’ch grŵp roi tro arnynt, er enghraifft cyfrif peillwyr ac arolygon natur eraill.   Ein hamcangyfrif o ran ymrwymiad amser fydd tua dwy neu dair awr y mis, o fis Mai i fis Hydref.   

Sylwer – allwn ni ddim cefnogi prosiectau a drosglwyddir mewn ardaloedd gwledig, cadwraethol neu warchodedig fel SoDdGA. Yn ogystal, allwn ni ddim ariannu unrhyw brosiectau sydd angen caniatâd cynllunio, gan y byddai’r broses hon yn cymryd gormod o amser. 

Gellir defnyddio grant oddi wrth Tyfu’n Wyllt i dalu am holl gostau a gweithgareddau eich prosiect. Gall hyn gynnwys hadau, planhigion, pridd, deunyddiau, digwyddiadau, costau gweithdai, arbenigwyr penodol a chostau contractwyr.  

Gall ymgeiswyr ddyrannu hyd at 25% o grant Tyfu’n Wyllt tuag at gostau staff sy’n ymwneud â throsglwyddiad uniongyrchol gweithgareddau’r prosiect. Gall hyn gynnwys paratoi a throsglwyddo gweithdai, cymorth gan wirfoddolwyr, sesiynau ymarferol.  

Ni ellir defnyddio grant Tyfu’n Wyllt i dalu am gostau sefydliadol craidd nac am gostau staff sydd ddim yn ymwneud â throsglwyddiad uniongyrchol y prosiect.  

Gellir defnyddio grantiau i dalu i unigolion nad ydynt yn cael eu cyflogi gan eich sefydliad a sefydliadau partner i drosglwyddo gweithgareddau prosiect. Bydd rhaid i’r hyn y maent yn ei wneud fod yn berthnasol i nodau eich prosiect a’r deilliannau arfaethedig. (Os caiff eich syniad prosiect ei osod ar y rhestr fer ar gyfer yr ail gam, fe ofynnwn ichi am fanylion llawn hyn).  

Nid ydym yn gofyn am arian cyfatebol ac ni chaiff ei sgorio fel rhan o gais eich grŵp. Os oes gennych ariannu arall ar gyfer prosiectau cysylltiedig fydd yn cael eu cynnal yn yr un gofod, gallwch ddweud mwy wrthym am hyn os caiff eich prosiect ei osod ar y rhestr fer. Disgwylir y gellir trosglwyddo’r syniad prosiect a ddisgrifir yn eich cais yn gyfforddus gyda’r grant o £2000 oddi wrth Tyfu’n Wyllt, yn annibynnol o unrhyw ariannu arall.  

  • Ni ellir defnyddio’r grant i brynu eitemau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch prosiect.  
  • Dylech osgoi cyllidebau sydd ond yn talu am seilwaith ffisegol; meddyliwch hefyd am gostau cael pobl i gymryd rhan yn y prosiect.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn disgwyl i’ch grŵp roi gwybod inni sut mae eich prosiect yn mynd. Bydd hyn yn cynnwys tynnu a rhannu lluniau o’ch prosiect ar waith a chwblhau rhywfaint o ffurflenni gwerthuso syml, i’n helpu i fesur effaith y fenter hon. 

Rydym yn chwilio am grwpiau gydag arweinyddion prosiect sy’n awyddus i fynychu hyfforddiant ar-lein Tyfu’n Wyllt, i gysylltu a rhannu profiadau. Mae’n bosibl y bydd gan rai o’n sesiynau hyfforddiant ar-lein weithgareddau dilynol ar gyfer eich grŵp, er enghraifft cyfrif peillwyr ac arolygon natur eraill.  Ein hamcangyfrif o ran ymrwymiad amser fydd tua dwy neu dair awr y mis, o fis Mai i fis Hydref. Fel arfer, cynhelir sesiynau yn ystod y dydd neu gyda’r nos yn ystod yr wythnos, a byddwn yn anelu i bennu amserau fydd yn gweithio i’r mwyafrif. Bydd sesiynau hyfforddi’n cael eu recordio hefyd. 

Bydd Tyfu’n Wyllt yn creu astudiaeth achos am eich prosiect i’w rhannu gyda’n cynulleidfa ehangach a chyllidwyr y rhaglen. Byddwn yn gofyn i gael ymweld â’ch prosiect yn ystod yr haf, i dynnu lluniau ac i siarad gydag aelodau eich grŵp. Byddwn yn gwerthfawrogi eich help i drefnu’r ymweliad hwn yn fawr iawn. 

I ymgeisio, casglwch eich grŵp at ei gilydd a dechrau cynllunio eich ‘cyflwyniad cryno’ - fideo byr, heb fod yn hwy na 5 munud, yn dweud wrthym yr hyn yr ydych am ei wneud, sut y byddwch yn ei wneud ac awgrym o sut y byddwch yn gwario’r arian.

Dylech gynnwys dolen i’ch fideo ar eich ffurflen gais. Gwnewch yn siŵr bod eich dolen ar agor i Tyfu’n Wyllt ei gwylio.

Efallai y bydd yn haws lanlwytho eich fideo i safwe rhannu yn gyntaf, fel YouTube neu Vimeo. Ond gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd i wneud yn siŵr nad yw eich fideo ar gael i’w gwylio gan y cyhoedd, os nad ydych am iddynt ei gweld.

Cofiwch sicrhau eich bod wedi derbyn caniatâd pawb sydd yn y fideo a’ch bod wedi dweud wrthynt y bydd yn cael ei rannu gyda Tyfu’n Wyllt. Os yw eich fideo yn cynnwys pobl ifanc dan 18 oed, bydd rhaid ichi dderbyn caniatâd gan eu rhieni.

Os bydd creu fideo yn anodd i’ch grŵp oherwydd unrhyw anghenion mynediad penodol, cysylltwch gyda Thyfu’n WYllt i drafod syniad addas arall.

Beth i’w gynnwys yn eich cyflwyniad…

  1. Cyflwynwch eich grŵp.
  2. Dywedwch wrthym am eich syniad a pham eich bod am ei wneud.
  3. Eglurwch sut fydd eich syniad yn dathlu planhigion brodorol y DU.
  4. Dangoswch neu dywedwch wrthym am y gofod yr ydych am ei drawsnewid.
  5.  Eglurwch sut fydd eich prosiect yn cael effaith positif ar gyfer bioamrywiaeth – gall hyn gynnwys buddiannau ar gyfer peillwyr, adar a bywyd gwyllt arall.
  6. Dywedwch wrthym pwy fyddwch yn eu cynnwys a beth fyddant yn ei wneud.
  7. Ar beth wnewch chi wario’r £2000?

Ar hyn o bryd, y cyfan fydd ei angen yw trosolwg. Er enghraifft, dylech sôn am unrhyw ddeunyddiau, offer, planhigion neu hyfforddiant y byddwch eu hangen, amser staff neu gostau digwyddiadau.

Sylwer: Gellir defnyddio hyd at 25% o’r grant i dalu i staff o’ch grŵp drosglwyddo gweithgareddau’r prosiect.

Darllenwch 'Sut ellir gwario’r grant?' am fanylion llawn ar sut y gellir defnyddio’r grant.

Byddem yn argymell cymryd cipolwg ar gwestiynau’r ffurflen gais mewn da bryd cyn y dyddiad cau, fel y gallwch baratoi’r wybodaeth angenrheidiol.

Edrychwch ar y gwestiynau’r yma...

Tyfu’n Wyllt Grantiau Cymunedol - Cwestiynau 2023.pdf

 

Cofiwch gwblhau ac anfon eich ffurflen gais erbyn 10am ar Ddydd Gwener 24ain Mawrth 2023

Gofynnir ichi ddarparu:

  • Copi o gyfansoddiad, neu ddogfen debyg, eich grŵp.  
  • Enw a manylion cyswllt arweinydd prosiect penodedig ac ail gyswllt, i drafod gyda Tyfu’n Wyllt.  
  • Copi o lythyr / e-bost yn cadarnhau caniatâd y perchennog tir, os yn berthnasol i’ch syniad prosiect.  
  • Copi o bolisi a gweithdrefnau eich grŵp ar gyfer diogelu plant ac oedolion agored i niwed.  
  • Manylion unrhyw bartneriaid neu sefydliadau cefnogol fydd yn rhan o’r prosiect neu fydd yn cynnig cymorth.  
  • Dolen i’ch fideo cyflwyniad cryno.  
  • Gallwch hefyd rannu hyd at dri llun yn dangos y gofod yr ydych am ei drawsnewid, mae hyn yn ddewisol.

 

 

 

Cynlluniwch sut i gynnwys pobl yn ddiogel.

Bydd angen ichi ystyried iechyd a diogelwch pawb sy’n gysylltiedig â’ch prosiect, mae hyn yn cynnwys Covid-19. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn disgwyl y bydd gan eich grŵp asesiadau risg priodol yn eu lle ar gyfer eich holl weithgareddau. Dylech hefyd sicrhau bod gweithdrefnau diogelu priodol yn eu lle i warchod unrhyw bobl dan 18 oed, neu oedolion agored i niwed, fydd yn rhan o’ch prosiect. Fe ofynnwn ichi gyflwyno copi o’ch polisi a gweithdrefnau diogelu pan fyddwch yn ymgeisio. 

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am unrhyw beryglon yn eich gofod.

Cyfrifoldeb eich grŵp fydd ymchwilio i’r gofod yr ydych am ei drawsnewid a gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer eich gweithgareddau arfaethedig. Mae pethau pwysig i’w hystyried yn cynnwys:  

  • Gwybod am leoliad unrhyw wasanaethau tanddaearol os byddwch yn tyllu
  • Bod yn ymwybodol o unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd yn yr ardal leol
  • Chwilio am bresenoldeb sbwriel peryglus, fel gwydr wedi torri

Os nad ydych yn siŵr, siaradwch trwy hyn yn ofalus gyda pherchennog y tir.  

 

Ymgysylltwch gyda phobl yn ardal leol eich prosiect.

Cyn ymgeisio am grant, gwiriwch na fydd y gweithgareddau yr ydych yn eu cynllunio’n cael effaith andwyol ar sut y bydd rhanddeiliaid eraill yn defnyddio neu’n profi gofod cymunedol. Efallai y gallent hefyd rannu syniadau gwych i helpu i wneud eich prosiect hyd yn oed yn well!

 

Gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol ar gyfer eich gweithgareddau.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd tîm Tyfu’n Wyllt wrth law i ddarparu cefnogaeth prosiect cyffredinol a chymorth gydag unrhyw ymholiadau fydd gennych am eich grant.

Yn ogystal, bydd tîm Tyfu’n Wyllt yn cysylltu’r grwpiau llwyddiannus, er mwyn annog cefnogaeth cymheiriaid a chewch fynediad hefyd i raglen Tyfu’n Wyllt o sgyrsiau a hyfforddiant ar-lein.

Mae’n bwysig nodi NA fydd tîm Tyfu’n Wyllt yn gallu eich cynghori gydag unrhyw agweddau technegol neu ddydd-i-ddydd o drosglwyddo eich prosiect.

Er enghraifft, unrhyw amodau safle penodol, priddoedd, adnabod planhigion, tirlunio neu dechnegau adeiladu.

Gofynnwn ichi holi arbenigwyr lleol am y math yma o gymorth. Un ai unigolion gwybodus y mae eich grŵp yn eu hadnabod neu sefydliadau lleol, sydd â’r sgiliau angenrheidiol. Efallai y rhoddir hyn am ddim, neu gallwch ddefnyddio cyfran o’ch grant i dalu am y cymorth yma.

Mae’n bwysig, wrth gynllunio eich syniad, i feddwl pa gymorth y gallech fod ei angen a gwneud yn siŵr y bydd ar gael yn ddidrafferth. Rydym am ariannu prosiectau dyfeisgar – ond mae rhaid iddynt hefyd fod yn hawdd i’w cyflawni.

Yn y ffurflen gais rydym yn gofyn ichi ddweud wrthym am unrhyw grwpiau partner, sefydliadau neu unigolion fydd yn helpu i wneud eich prosiect yn llwyddiant.

Mae ffynonellau gwybodaeth defnyddiol yn cynnwys:

Byddwn yn derbyn ceisiadau tan 10am ar Ddydd Gwener 24ain Mawrth 2023.

Wedi’r dyddiad cau i ymgeisio, byddwn yn adolygu pob un o’r ceisiadau a dderbynnir a chreu rhestr fer o’r syniadau prosiect sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnom.

Fe roddwn wybod i’r grwpiau sydd ar y rhestr fer ar gyfer y cam nesaf tua Mai 2023. Felly cadwch lygad am e-bost oddi wrth Tyfu’n Wyllt.

Rhoddir gwybod i grwpiau sydd DDIM ar y rhestr fer trwy e-bost erbyn diwedd mis Mai 2023. Oherwydd nifer fawr y ceisiadau, cofiwch na fydd modd i Tyfu’n Wyllt gyflwyno adborth uniongyrchol i’r grwpiau hyn. 

Os bydd eich grŵp ar y rhestr fer, yna fe ofynnwn ichi am fwy o fanylion am eich cynlluniau. Bydd hyn yn cynnwys anfon y canlynol atom:

  • Cyllideb fanylach yn dangos sut y byddwch yn gwario’r arian.
  • Amserlen ddrafft yn nodi pryd y cynhelir eich gweithgareddau.

Fe ddarparwn dempledi syml a chanllawiau i’ch helpu i baratoi’r hyn fyddwn am ei weld.

Rhoddir pythefnos i bob un o’r grwpiau ar y rhestr fer i gyflwyno eu cynllun cyllideb a’u hamserlen. Yna, bydd ein panel o arbenigwyr yn dethol y saith prosiect llwyddiannus.

Dyrennir grantiau i syniadau prosiect sy’n cyflawni orau’r criteria a amlinellir gan Tyfu’n Wyllt ac amcanion ein rhaglen, darllenwch Beth ydyn ni’n chwilio amdano? am fanylion llawn.  

Mae Tyfu’n Wyllt yn cadw’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa grwpiau fydd yn derbyn grant ac ni cheir unrhyw drafodaeth ynghylch y penderfyniad hwn.

 

Cysylltu

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod eich syniadau...

E-bostiwch Tyfu’n Wyllt: hellogrowwild@kew.org

Galwch ni ar: 07824 104 632.

Stay in touch

We're passionate about UK native plants and fungi, and how they can help people grow and learn together. Sign up to find out more!