Rhaglen Gymunedol

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn English

Applications to Grow Wild’s Community Programme 2024 are now closed.

All applicants have been informed about the outcome of their 2024 Community Programme application. If you haven't heard a response yet, please get in touch with us. Please also check your junk mailbox to check you haven't missed an email. 

Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol, ieuenctid neu wirfoddol? Oes gan eich grŵp syniad prosiect i helpu i gysylltu pobl leol gyda’r byd naturiol? Ydych chi’n gwybod am ofod trefol fyddai’n ddelfrydol i’w drawsnewid? 

Os yw eich ateb i’r uchod yn gadarnhaol – ymgeisiwch am grant prosiect cymunedol oddi wrth Tyfu’n Wyllt a dod â syniadau eich grŵp yn fyw. Byddwch yn ein helpu gyda’n cennad i ddod â phobl at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau planhigion brodorol y DU.

 

Image
4 people gardening with two wheelbarrows forefront

Beth yw Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt? 

Mae Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt yn cefnogi grwpiau i drawsnewid gofodau trefol er budd pobl a bywyd gwyllt trwy blannu ac eiriol dros blanhigion brodorol y DU. 

Yn 2024, bydd Tyfu’n Wyllt yn rhoi cyfle i 25 o grwpiau cymunedol o bob cwr o’r DU i ymuno â’r Rhaglen Gymunedol. 

Bydd Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt yn cefnogi eich prosiect gyda:

  • Grant o £2000 i drawsnewid gofod trefol gyda phlanhigion brodorol y DU, annog bywyd gwyllt, ac i ymgysylltu â'ch cymuned leol.
  • Sesiynau hyfforddi ar-lein wedi’u teilwra’n arbennig er mwyn eich cefnogi i drosglwyddo eich prosiect, cynyddu eich gwybodaeth a’ch helpu i ysbrydoli pobl eraill i ymuno gyda chi. 
  • Cyfleoedd i gysylltu gyda grwpiau eraill sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth eich gilydd. 

Mae’r cyfle hwn yn fwy na dim ond cefnogaeth ariannol – rydym yn chwilio am grwpiau fydd yn croesawu popeth sydd gan y rhaglen i’w gynnig.

 

Sefydliadau nid-er-elw:

 

  • Megis grwpiau gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol
  • grwpiau trigolion
  • cymdeithasau cymunedol
  • awdurdodau / byrddau iechyd

 

Yn anffodus ni allwn ariannu: 

  • Ysgolion – cadwch lygad am ein Prosiectau Ieuenctid fydd yn lansio ddechrau 2024 
  • Awdurdodau Lleol yn uniongyrchol – ond fe allwn ariannu prosiectau gaiff eu harwain gan grwpiau annibynnol ar dir Awdurdod Lleol 
  • Unig fasnachwyr neu unigolion  
  • Prosiectau ble y gellid defnyddio cyllid Tyfu’n Wyllt at fudd masnachol  
  • Mudiadau a phrosiectau sydd wedi eu lleoli y tu allan i’r DU. 

 

Bydd Tyfu’n Wyllt ond yn gallu ariannu prosiectau mewn lleoliadau trefol.

Ni all Tyfu’n Wyllt gefnogi prosiectau a drosglwyddir mewn ardaloedd gwledig, cadwraeth neu warchodedig, fel SoDdGA. Yn ogystal, ni all Tyfu’n Wyllt ariannu prosiectau sydd angen caniatâd cynllunio, oherwydd amserlen y rhaglen. 

Fel canllaw, rydym yn diffinio gwledig fel aneddiadau sydd â llai na 10,000 o drigolion. 

 

Darllenwch fwy am ofynion cymhwyster grwpiau

Mae Tyfu’n Wyllt yn chwilio am brosiectau sy’n anelu i wella bioamrywiaeth yn lleol trwy drawsnewid gofod trefol, gyda ffocws ar dyfu a dathlu planhigion brodorol y DU. 

Dylai prosiectau ddod a phobl at ei gilydd i gymryd camau gweithredu cadarnhaol ar gyfer natur a’r gymuned yn gyffredinol.    
 
Bydd angen i brosiectau a ariennir gan Tyfu’n Wyllt gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2024. 

Am fanylion llawn pa brosiectau gaiff eu hariannu gan y Rhaglen Gymunedol, ewch i’n tudalen ‘Arweiniad i ymgeiswyr’ trwy glicio ar y botwm isod. 

Gweler ‘Arweiniad i ymgeiswyr’ am y manylion llawn  

Pam mae’n bwysig gwarchod planhigion brodorol y DU?

Yn y DU rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth wych o rywogaethau o blanhigion brodorol. Yn ogystal â dod a lliw a diddordeb i’n bywydau, maent yn darparu ffynonellau bwyd a lloches hanfodol ar gyfer pryfed, adar a bywyd gwyllt arall. 

Mae nifer o rywogaethau brodorol y DU yn dirywio, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. 

 

Dysgwch fwy am yr hyn a ddiffinnir gan blanhigion ‘brodorol y DU’ 

Mae cyfranogwyr blaenorol wedi dweud...

'Cyn defnyddio’r adnoddau, roeddwn am i’r ardal edrych yn dlws, ac fe all, ond yr hyn sy’n bwysig imi nawr yw deall yr hyn mae’r planhigion yn ei wneud a sut maen nhw’n effeithio ar fioamrywiaeth yn yr ardd ... roedd y wybodaeth a dderbyniom yn wych, yn gyson, ac yn wirioneddol gefnogol. Mae’n debyg mai dyma un o’r cyllidwyr gorau inni ei gael o ran cefnogaeth.'

 

Conquer Life – Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt 2022 

 

 

Image
Painting car tyres turning into seating in front of a blue shed and wooden planters filled with plants

 

Dysgwch am brosiectau blaenorol Tyfu’n Wyllt 

Gyda diolch i'n cyllidwyr

Cefnogir prosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt gan Alexander McQueen, sy’n dod â phobl at ei gilydd i werthfawrogi a mwynhau planhigion brodorol y DU.

Rydym hefyd yn ddiolchgar am y Rhoddion Mewn Ewyllys sydd wedi cefnogi’r rhaglen hon.

Tyfu’n Wyllt yw menter ddysgu allgymorth genedlaethol Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Kew. 

Dysgwch fwy am Tyfu’n Wyllt

Stay in touch

We're passionate about UK native plants and fungi, and how they can help people grow and learn together. Sign up to find out more!