Grantiau Ieuenctid

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn English

Rhwng 14-25? Ymgeisia am grant o £500 oddi wrth Tyfu’n Wyllt a rhedeg dy brosiect cyffrous dy hun yr haf hwn! 

Young girl in green t-shirt planting in community group
Heath Hands, Ines Stuart-Davidson/RGB Kew

Sylwer: mae ceisiadau ar gyfer y cyfle grant hwn wedi cau bellach.

Mae planhigion a ffyngau anhygoel y DU angen dy help…

Maen nhw’n lliwgar ac yn hynod o amrywiol, ond maent hefyd yn darparu ffynonellau bwyd a lloches pwysig ar gyfer ein pryfed, adar a gwahanol fywyd gwyllt. Maent yn cyfrannu at foddion allweddol ac maent hyd yn oed wedi ysbrydoli chwedlau hudol. 

Er gwaethaf hyn i gyd, yn anffodus mae llawer o rywogaethau o blanhigion a ffyngau brodorol y DU yn dirywio ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn enwedig mewn ardaloedd mwy trefol. 

Rydym am newid hyn trwy roi sylw a gwerthfawrogiad dilys i rywogaethau brodorol y DU, gan gysylltu pobl a chymunedau ar yr un pryd. 

Ymuna gyda ni yn ar ein cennad.

y briff

Young smiling woman wearing orange t-shirt on microphone

 

Os wyt ti rhwng 14-25 oed ac yn byw yn y DU, rydym am dy wahodd i…

Feddwl am syniad prosiect i ddathlu a rhannu pam fod planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU mor arbennig. 

Yn gyfnewid am dy waith, cei:

  • Yn gyfnewid am dy waith, cei… 

  • Grant o £500, i dalu am bopeth y byddi ei angen ar gyfer dy brosiect. O ddeunyddiau ac offer sylfaenol i unrhyw hyfforddiant fyddai’n ddefnyddiol. 

  • Dyma gyfle unigryw i ddod â dy syniad prosiect yn fyw!
  • Dy benderfyniad di fydd sut i gwblhau dy brosiect, felly defnyddia’r thema a gwneud rhywbeth yr wyt ti wir yn ei fwynhau!

  • Waeth os wyt ti’n hoffi hau neu wau, ffotograffiaeth neu greu fideos, gwyddoniaeth neu goginio… os oes gen ti syniad, rydym am glywed gennyt. Fe fyddwn ni’n barod i ystyried pob math o brosiectau, felly paid dal yn ôl.

  • Mae’n ffordd wych o ychwanegu profiadau newydd i dy CV neu dy bortffolio.

  • Byddi’n cymryd camau cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth, pobl a’r blaned.

  • Cei gysylltu, ysbrydoli a chael hwyl gyda phobl eraill. Galli gynnwys dy ffrindiau, dy gymdogion neu dy gymuned ehangach.

Dim o gwbl!

I ddweud y gwir, fe fyddwn yn falch iawn i dderbyn ceisiadau oddi wrth bobl sy’n gwybod fawr ddim am rywogaethau brodorol y DU. A gyda’r fath amrywiaeth aruthrol o goed, ffyngau, mwsogl, bodau gwyllt, gweiriau a chennau brodorol y DU - pwy all fod yn arbenigwr mewn gwirionedd?

Mae rhedeg dy brosiect dy hun yn ffordd wych i ddysgu. Rydym yn chwilio am frwdfrydedd a syniadau prosiect diddorol.

 

Patch of wildflowers

 

I fod yn gymwys, bydd angen iti …

  1. Yn gyntaf, darllen ein arweiniad i ymgeiswyr a’r arweiniad i sefydliadau cefnogol. Os wyt ti dan 18 oed, cofia ofyn i dy riant neu warcheidwad am ganiatâd cyn cychwyn ar dy gais.
  2. Chwilia am Sefydliad Cefnogol i dy helpu i drosglwyddo dy brosiect
  3. Meddylia am syniad gwych ar gyfer dy brosiect.
  4. Cer ati i greu fideo 2 funud o hyd yn dweud wrthym am dy syniad. Fyddi di ddim angen offer cymhleth ar gyfer hyn - mae ffôn symudol yn iawn. Dy syniad am brosiect gwych sydd o ddiddordeb i ni, nid dy sgiliau ffilmio.
  5. Cofia gwblhau a chyflwyno ein ffurflen ar-lein fer erbyn 10am ar Dydd Llun 25 Ebrill 2022Sylwer: mae ceisiadau ar gyfer y cyfle grant hwn wedi cau bellach.

Gall prosiectau gychwyn ym mis Mehefin a bydd rhaid eu gorffen erbyn diwedd mis Hydref 2022.

 

Young guy working with his community group raking
iStock/Halfpoint

Diolch am ofyn …

Ein nod ydi creu arweinyddion amgylcheddol ysbrydoledig sy’n weithgar yn eu cymuned ac sy’n annog eraill i rannu eu diddordeb yn y byd naturiol. Dyma pam ein bod yn rhoi cyfle iti gymryd rhan yng nghynllun newydd Gwobr Kew i Arweinyddion Amgylcheddol Ifanc.

Three young adults in community group holding plants and tools
iStock/Solstock

 

Bydd cwblhau’r wobr yn …

  • Arddangos y sgiliau a’r rhinweddau arweinyddol y byddi’n eu datblygu trwy redeg dy brosiect dy hun

  • Rhoi mynediad ecsgliwsif iti i adnoddau dysgu a hyfforddiant ar-lein i dy helpu i gwblhau’r wobr a’r prosiect yn llwyddiannus

  • Gweithio ochr-yn-ochr gyda dy brosiect Tyfu’n Wyllt ar bob cam, gan dy helpu i gynyddu dy sgiliau, dy hyder a chael y gorau o’r cyfle grant hwn.

  • Ennill achrediad gan Erddi Botaneg Cenedlaethol, Kew fydd yn arddangos dy orchestion i gyflogwyr yn y dyfodol, sefydliadau addysgol, darpar-gyllidwyr a mwy.

Trwy gydol y wobr gofynnir iti gwblhau a chyflwyno nifer o dasgau sy’n datblygu naw o rinweddau arweinyddol allweddol. Rhagwelir y bydd yn cymryd tua 30 awr iti, ar gyfartaledd, i gwblhau’r achrediad.

Anfonir manylion llawn a chyfle i gofrestru ar ôl i’r grantiau prosiect llwyddiannus gael eu dyfarnu.

Nawr, yn fwy nac erioed, rydym angen i weithredu amgylcheddol positif ac eiriol dros natur fod wedi ei wreiddio wrth galon pob arweinydd, waeth pwy ydyn nhw, a waeth beth eu cyrhaeddiad. Gobeithio wir dy fod yn awyddus i gymryd rhan. 

Chwilio am ysbrydoliaeth?

Rydym wedi ariannu a chefnogi 301 o bobl ifanc i redeg eu prosiectau eu hunain ers 2014. Fe allet ti fod y nesaf!

Dysga am rai o’n Prosiectau Ieuenctid blaenorol i ysgogi dy feddwl creadigol:

Efallai y bydd y fideos hyn ar ein sianel YouTube o gymorth hefyd:

Arweiniad i Ymgeiswyr

Mae’r wybodaeth isod yn egluro popeth yr wyt angen ei wybod. Cofia hefyd ymweld â’n arweiniad i sefydliadau cefnogol.

Wildflowers growing out of a white bathtub
Wildflower Bathtub, Peer Hoxton
  • Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ydi 10am ar Dydd Llun 25 Ebrill 2022Sylwer: mae ceisiadau ar gyfer y cyfle grant hwn wedi cau bellach.

  • Caiff prosiectau llwyddiannus gychwyn ym mis Mehefin a bydd rhaid eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2022. Os wyt ti’n bwriadu cynnal dy brosiect yn dy ysgol, coleg neu brifysgol, cofia ystyried gwyliau’r haf!  

Rydym yn gwahodd pobl ifanc rhwng 14-25 oed o bob cwr o’r wlad i…

‘Feddwl am syniad am brosiect i ddathlu a rhannu pam fod planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU mor arbennig’

Rydym yn chwilio am…

  • Brosiectau sy’n canolbwyntio ar blanhigion a / neu ffyngau brodorol y DU.

  • Prosiectau fydd yn cynnwys pobl eraill mewn rhyw ffordd.

Dylet anelu i rannu dy brosiect gydag o leiaf 100 o bobl. Efallai bod hyn yn swnio fel lot o bobl, ond fydd hyn ddim yn anodd i’w gyflawni gyda phlatfformau ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol i dy helpu.

Sut fydd pobl eraill yn elwa o dy syniad prosiect? Meddwl am yr effaith positif gei di a dyweda wrthym amdano!

  • Prosiectau fydd yn gwneud defnydd da o’r grant o £500 dyweda sut y byddi’n defnyddio’r arian i greu’r effaith mwyaf.

Meddylia beth fydd angen iti ei brynu neu dalu amdano os bydd dy gais yn llwyddiannus. Gall hyn gynnwys unrhyw offer neu ddeunyddiau, hyfforddiant, adnoddau, neu gymorth arbenigol y byddi ei angen. Sylwer: ni alli ddefnyddio’r grant i dalu cyflog i dy hun.

  • Prosiectau fydd yn dal y llygad a’r dychymyg - bydd yn wreiddiol a meddwl am rywbeth cyffrous!

Pwysig: Byddi angen caniatâd y perchennog tir os bydd dy brosiect yn cynnwys unrhyw weithgarwch a gynhelir mewn man cyhoeddus

 

  • Bydd rhaid iti enwebu sefydliad ieuenctid, cymunedol neu addysgol i dy gefnogi gyda dy brosiect. Meddylia am unrhyw sefydliadau yr wyt yn rhan ohonynt eisoes. Neu, os nad oes gennyt gysylltiad eisoes, allet ti ofyn i fudiad sydd wedi ei leoli yn dy gymuned?

  • Bydd dy Sefydliad Cefnogol yn chwarae rôl bwysig, gan dy helpu i redeg dy brosiect a dal y grant o £500 ar dy ran. Ni ellir rhoi’r arian mewn cyfrifon banc personol neu gyfrifon banc busnes preifat. 

  • Wrth chwilio am gymorth gan sefydliad, cofia ddangos yr Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol iddynt, fel eu bod yn gwybod beth fyddi’n ei ddisgwyl ganddynt. Cofia dithau ddarllen hwn hefyd, am fwy o fanylion ar ba sefydliadau sy’n gymwys.

  • Cofia siarad trwy dy syniadau am brosiect a gweithio gyda dy Sefydliad Cefnogol i wneud yn siŵr y galli gwblhau dy brosiect yn ddiogel. Dy ddiogelwch di, a diogelwch pawb sy’n rhan o’r prosiect sydd bwysicaf, felly bydd angen iti gynllunio ar gyfer hyn yn ofalus. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau a rhagofalon angenrheidiol i ddiogelu unrhyw bobl ifanc neu bobl agored i niwed sy’n rhan o dy brosiect ac i leihau risgiau Covid-19.

     

  • Sut allet ti rannu dy brosiect ar-lein, er mwyn i bobl allu cymryd rhan ble bynnag y maen nhw? Efallai y gallet greu fideos, blog neu gylchlythyr hyd yn oed?

  • Sut allet ti wneud dy brosiect yn fwy cynaliadwy’n amgylcheddol? Er enghraifft, gallet ddefnyddio dim ond compost di-fawn, casglu dŵr glaw, defnyddio cyflenwyr lleol, neu weithio gyda deunyddiau eilgylch.

  • Sut wnei di sicrhau bod hi’n bosibl cyflawni dy brosiect yn yr amser penodedig? A oes angen ystyried gwyliau allai effeithio ar gyflawni’r prosiect?

  • Mae Covid-19 yn dal i effeithio ar lawer o bobl mewn gwahanol ffyrdd - sut alli di wneud yn siŵr bod pawb sy’n rhan o dy brosiect yn teimlo’n gyfforddus, yn ddiogel ac wedi eu cynnwys?

 

Two hands drawing mind maps on poster paper

Ddylai dy fideo fod dim hirach na dau funud. A dyna ni! 

Fyddi di ddim angen offer cymhleth ar gyfer hyn - mae ffôn symudol yn iawn. Dy syniad am brosiect sydd o ddiddordeb i ni, nid dy sgiliau ffilmio, ond cofia gyflwyno’r wybodaeth yn glir.

Cofia gynnwys:

  1. Enw bachog i dy brosiect.

  2. Dy syniad prosiect a pham dy fod am ei wneud. 

  3. Eglurhad am sut y bydd yn dathlu planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU.

  4. Manylion ble fyddi di’n cwblhau dy brosiect.

  5. Manylion pwy fyddi di’n eu cynnwys. Beth fyddan nhw’n ei wneud neu’n ei brofi. 

  6. Crynodeb o sut y byddi di’n gwario’r £500.  

Pan fydd dy fideo’n barod, cofia gynnwys dolen iddo yn dy ffurflen gais. Gwna’n siŵr bod y ddolen ar agor i Tyfu’n Wyllt ei gweld.

Pwysig: Os byddi’n defnyddio safle rhannu fideos, fel YouTube neu Vimeo, gwna’n siŵr nad ydi dy fideo i’w gweld yn gyhoeddus. Dylet ond rhannu’r ddolen gyda’r bobl sydd angen ei gweld.

Cofia sicrhau dy fod wedi derbyn caniatâd gan bawb sydd yn y fideo ac wedi dweud wrthyn nhw y bydd yn cael ei rannu gyda. Tyfu’n Wyllt. Os wyt ti neu unrhyw berson ifanc yn y fideo cais o dan 18 oed, bydd rhaid i riant / gwarcheidwad roi caniatâd iti / iddynt gymryd rhan.

Os bydd creu fideo yn anodd i ti, rho wybod i ni yma yn Tyfu’n Wyllt. Byddwn yn barod iawn i gynnig dull amgen i bobl sydd ag anghenion mynediad penodol.

 

Woman's hand taking photo of young Fly agaric mushroom with iPhone
iStock/Vera petrunia

Cofia lenwi’r ffurflen ar-lein, yn cynnwys y ddolen i dy fideo.

  • Gofynnir iti nodi manylion cyswllt ar dy gyfer di a dy Sefydliad Cefnogol. Dylai’r ddau ohonoch fod ar gael trwy’r haf. Gofyn i dy berson cyswllt yn dy Sefydliad Cefnogol i helpu gyda hyn.  

  • Byddwn yn dy gynnwys di a dy Sefydliad Cefnogol enwebedig ym mhob gohebiaeth am dy gais a dy brosiect.

  • Os wyt ti dan 18 oed, cofia wneud yn siŵr dy fod wedi derbyn caniatâd gan dy riant neu warcheidwad i wneud dy brosiect ac i greu ac anfon dy fideo cais. Byddwn yn darparu ffurflen ganiatâd ar wahân ar gyfer unrhyw sesiynau hyfforddi ar-lein.

Wedi iti ymgeisio, bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel ieuenctid - grŵp o wirfoddolwyr ifanc. Mae aelodau’r panel wedi eu hyfforddi i asesu ceisiadau a byddant, fel grŵp, yn penderfynu pa brosiectau fydd yn cael eu hariannu.

Bydd grantiau’n cael eu dyrannu i syniadau prosiect sy’n cyflawni’r criteria a nodir gan Tyfu’n Wyllt orau, cofia ddarllen Darllen am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano’uchod, am fanylion llawn.

Mae Tyfu’n Wyllt yn cadw’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa ymgeiswyr fydd yn derbyn grant ac ni chynhelir unrhyw drafodaeth am y penderfyniad hwn. Cei dy hysbysu os yw dy gais yn llwyddiannus trwy e-bost erbyn diwedd mis Mai. Felly cofia gadw lygad ar dy e-bost!

 

Pob lwc iti!

Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol

 

Community group leader helping young girl willow weaving

 

Cefnogwch berson ifanc i ymgeisio am grant o £500 a rhedeg eu prosiect cyffrous eu hunain.

Ar y dudalen hon cewch hyd i arweiniad am rôl Sefydliad Cefnogol a pha sefydliadau sy’n gymwys. Rydym hefyd wedi cynnwys canllawiau pwysig sy’n ymwneud â diogelwch.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ein Arweiniad i Ymgeiswyr uchod.

Os oes gennych gwestiynau neu os byddwch angen help, cofiwch e-bostio Tyfu’n Wyllt neu ein ffonio ar 020 4526488 neu 07826 873 421.

Ar wahân i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, neu sydd angen mwy o gefnogaeth, byddwn yn annog y person ifanc sy’n ymgeisio i fod yn gyfrifol am eu prosiect.

Er mwyn gwneud hyn, bydd rhaid i bob ymgeisydd ddynodi Sefydliad Cefnogol gyda pherson cyswllt enwebedig i weithio gyda nhw.

Nid yw Tyfu’n Wyllt yn gallu gwneud taliadau i unigolion - felly, bydd Sefydliadau Cefnogol cymwys yn derbyn y grant ar ran yr ymgeisydd y maent yn ei gynorthwyo. Byddant hefyd yn helpu i reoli’r gyllideb a’r gwariant.  

Un rhan bwysig o rôl y Sefydliad Cefnogol yw sicrhau bod y person ifanc yn gallu cwblhau eu prosiect yn ddiogel, gan ddarparu arweiniad angenrheidiol a gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau iechyd a diogelwch a diogelu digonol yn eu lle ac yn cael eu dilyn.

Gallwch gefnogi mwy nag un person ifanc, cyn belled â bod gwahaniaeth amlwg rhwng eu prosiectau.   

Mae’n bwysig nodi, tra bod tîm Tyfu’n Wyllt yn hapus iawn i helpu gyda chymorth cyffredinol yn ymwneud â defnyddio’r grant a phroses y prosiect, allwn ni ddim cynnig cyngor ar redeg y prosiect o ddydd-i-ddydd, nac elfennau ymarferol technegol. Dyma ble mae’r Sefydliad Cefnogol yn gallu helpu.

 

A group of young artists at the Grow Wild Exhibition, 70 St Mary Axe, 2021
Previous Grow Wild grant recipient, Ines Stuart-Davidson/ RGB Kew

Fel Sefydliad Cefnogol bydd rhaid ichi:

1. Fod yn sefydliad hirsefydlog a pherthnasol sydd â diben elusennol neu nid-er-elw. Yn benodol:

  • Grŵp gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol

  • Corff addysgol (ac eithrio ysgolion cynradd)

  • Elusen gelfyddydol

  • Awdurdod Lleol neu gorff cyngor arall

  • Awdurdod Iechyd

 

2. Gallu darparu aelod o staff neu wirfoddolwr/wraig:

  • i gyfathrebu gyda Tyfu’n Wyllt

  • i gefnogi’r person ifanc fel bo angen, e.e. defnyddio cyfleusterau ac offer, rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau, cyngor ac arweiniad

  • fydd ar gael trwy oes llawn y prosiect

3. . Bod yn ariannol gyfrifol am y prosiect gyda:

  • chyfrif banc yn enw eu sefydliad, neu yn enw awdurdod lleol / corff sector cyhoeddus arall, ble fo’n briodol

 

NID yw’r sefydliadau canlynol yn gymwys:

  • Busnesau preifat sy’n gweithredu er elw ac sydd â dim diben cymdeithasol

  • Sefydliadau sydd â phwrpas masnachol yn unig

 

    Two people working in a small garden

    Cyfrifoldebau’r Sefydliad Cefnogol

    Mae Tyfu’n Wyllt yn cydnabod y bydd lefel y gefnogaeth y bydd pobl ifanc ei hangen i drosglwyddo eu prosiect yn amrywio’n ôl oedran, gallu ac anghenion.

    Mae Adran 1 isod yn amlinellu’r cyfrifoldebau y bydd rhaid i bob Sefydliad Cefnogol lynu atynt.

    Mae Adran 2 isod yn amlinellu’r cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer Sefydliadau Cefnogol sy’n gweithio gyda phobl ifanc dan 18, unigolion a grwpiau gydag anghenion ychwanegol a / neu oedolion bregus.

    Bydd cyfrifoldeb ar bob Sefydliad Cefnogol i:

    • dderbyn y grant ar ran y person ifanc sy’n ymgeisio

    • sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario fel yr amlinellir yn y cais

    • cysylltu gyda Tyfu’n Wyllt os dewch i wybod nad yw’r prosiect yn cael ei drosglwyddo fel a drefnwyd

    • cefnogi’r person ifanc gyda throsglwyddiad y prosiect o ddydd-i-ddydd, gan gynnwys cwrdd gyda’r person ifanc yn rheolaidd i drafod y prosiect a darparu cyngor ac arweiniad fel bo angen.

    • sicrhau iechyd, diogelwch a lles pawb sy’n cyfranogi yn y prosiect. Mae hyn yn cynnwys ystyriaethau diogelu a Covid-19.

    Fel rhan o’r cyfrifoldeb hwn, bydd angen i Tyfu’n Wyllt weld copi o’r dogfennau canlynol cyn rhyddhau’r grant:

    • Cyfansoddiad (neu ddogfen debyg a gytunwyd gan y grŵp) yn amlinellu pwrpas ac amcanion y grŵp, neu dystiolaeth bod y sefydliad yn rhan o Awdurdod Lleol neu gorff sector cyhoeddus arall.

    Mae’n bosibl y gofynnir hefyd am gopïau o’r dogfennau canlynol a thystiolaeth o wiriadau datgelu perthnasol (sy’n benodol i’r wlad unigol) os bydd cais yn llwyddiannus:

    • Polisi cyfle cyfartal.

    • Polisi a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.

    • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n addas ar gyfer y prosiect arfaethedig.

    • Canllawiau gwirfoddoli (os yn bwysig i’r prosiect).

    • Polisi a gweithdrefnau diogelu.

    Ble fo’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc dan 18 oed, unigolion a grwpiau gydag anghenion ychwanegol a / neu oedolion bregus, bydd cyfrifoldeb ychwanegol ar y Sefydliad Cefnogol i:

    • sicrhau bod rhiant / gwarcheidwad y person ifanc sy’n ymgeisio i Tyfu’n Wyllt yn gwybod am y prosiect a’u bod wedi rhoi caniatâd i’w plentyn gael ei enwebu’n arweinydd y prosiect (*gweler y nodyn isod)

    • sicrhau bod pob person ifanc (mewn unrhyw grwpiau a amlinellir uchod) sy’n ymddangos mewn fideo cais wedi derbyn caniatâd rhiant / gwarcheidwad i gymryd rhan

    • sicrhau y derbynnir caniatâd i bob person ifanc dan 18 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau a drosglwyddir fel rhan o’r prosiect (yn cynnwys y fideo cais)

    • sicrhau bod pob aelod o staff a’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’r prosiect, wedi derbyn gwiriad datgelu (sy’n berthnasol i’w lleoliad yn y DU a’r gweithgareddau dan sylw) a’u bod wedi derbyn hyfforddiant priodol i gefnogi’r grŵp a’i weithgareddau.

    • sicrhau bod y prosiect yn hygyrch i bob cyfranogwr - gan roi ystyriaeth benodol i grwpiau ac unigolion sydd ag anghenion ychwanegol (**gweler y nodyn isod).

    • diogelu plant dan 18 oed a / neu oedolion bregus tra eu bod yn cymryd rhan yn y prosiect (yn cynnwys unrhyw weithgarwch perthnasol ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol).

    * Oherwydd polisïau diogelu plant a diogelu data Kew, ble fo arweinydd y prosiect dan 18 oed, bydd Tyfu’n Wyllt wastad yn cysylltu gyda chi fel y Sefydliad Cefnogol ym mhob gohebiaeth am gais arweinydd y prosiect ac, os yn llwyddiannus, y prosiect ei hun.

    **Os ydych yn cefnogi cais gan berson ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, cofiwch gysylltu gyda Tyfu’n Wyllt i roi gwybod inni, er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried hyn.

    Pan ddaw person ifanc atoch gyda syniad am brosiect, mae’n bwysig trafod a chynllunio gyda nhw sut y gellir trosglwyddo’r prosiect yn ddiogel, yn cynnwys gweithdrefnau i ddiogelu unrhyw gyfranogwyr dan 18 oed neu oedolion agored i niwed.

    Os bydd eu cais yn llwyddiannus, mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu copïau o’ch polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch a diogelu i Tyfu’n Wyllt, felly cofiwch sicrhau bod y rhain wedi eu diweddaru.

    Mae Tyfu’n Wyllt yn gofyn i’r bobl ifanc greu fideo dau funud o hyd, i ddweud wrthym pam eu bod yn ymgeisio am grant.

    Bydd yr ymgeiswyr yn rhannu dolen i’w fideo gyda Tyfu’n Wyllt pan maent yn cwblhau a chyflwyno eu ffurflen gais fer. Dim ond staff Tyfu’n Wyllt, a’r panel o bobl ifanc sy’n penderfynu pa brosiectau i’w hariannu, fydd yn gwylio’r fideos cais.

    Os yw creu fideo yn anodd i’r person ifanc yr ydych yn eu cefnogi, cysylltwch gyda Tyfu’n Wyllt i roi gwybod inni. Byddwn yn barod iawn i gynnig dull amgen i bobl sydd ag anghenion mynediad penodol.

    Am fwy o fanylion a chyngor ar greu fideo, darllenwch ein arweiniad i ymgeiswyr.

    Eleni, rydym yn cynnig cyfle i bob arweinydd Prosiect Ieuenctid i gymryd rhan yng nghynllun newydd Gwobr Kew i Arweinyddion Amgylcheddol Ifanc.

    Bydd y rhaglen hyfforddi a’r wobr sydd wedi ei hachredu gan Kew yn cynyddu sgiliau, atgyfnerthu a chynyddu hyder arweinyddion ifanc i rannu eu diddordeb yn y byd naturiol a gyrru newid amgylcheddol yn eu cymunedau. Mae’r wobr wedi ei dylunio i weithio ochr-yn-ochr gyda’u prosiect Tyfu’n Wyllt ar bob cam, gan eu helpu i gael y gorau o’r cyfle grant hwn a throsglwyddo eu prosiect yn llwyddiannus.

    Hoffem eich annog i gefnogi eich person ifanc os hoffent gymryd rhan. Bydd Tyfu’n Wyllt yn darparu sesiynau hyfforddi penodol ar-lein, mynediad i adnoddau ac adborth cyflwyniad terfynol, felly fydd dim pentwr o waith ychwanegol ar eich plât! Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi fydd cynorthwyo gyda chefnogaeth dydd-i-ddydd neu gwestiynau a threfnu cyfarfodydd cynnydd i sicrhau y gall y person ifanc gwblhau’r wobr ar amser.

    Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle hwn yn agored i bawb. Os ydych chi’n cefnogi person ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu oedolyn bregus, mae Tyfu’n Wyllt yn hapus i gynnig cymorth ychwanegol a threfniadau amgen ble fo angen.

    Cofiwch e-bostio Tyfu’n Wyllt neu ein ffonio ar 020 45264885 i drafod y modd gorau i gefnogi eich person ifanc.

    Unrhyw gwestiynau? Awydd sgwrsio am syniadau? Cysyllta gyda ni

    E-bostio: hellogrowwild@kew.org

    Ffonia: 020 4526 4885 neu 07826 873421

    Stay in touch

    We're passionate about UK native plants and fungi, and how they can help people grow and learn together. Sign up to find out more!