Grantiau cymunedol 2023

  1. Current Page 1
  2. Page 2
  3. Page 3
  4. Page 4
  5. Page 5
  6. Complete

Rydym yn gyffrous i lansio Rhaglen Gymunedol 2023 ac allwn ni ddim aros i weld y syniadau prosiect anhygoel y bydd grwpiau ar hyd a lled y DU yn eu cyflwyno.


I ymgeisio i ymuno â rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt a derbyn grant o £2000 i roi cychwyn i gynlluniau eich grŵp, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen hon erbyn 10am ar Ddydd Gwener 24ain Mawrth. 

Os ydych angen cymorth i ymgeisio, e-bostiwch Dîm Tyfu’n Wyllt neu galwch ni ar: 07824 104 632.

Mae’r ffurflen gais hon ar gael yn Saesneg hefyd.


Cyn cychwyn…

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ein canllaw ar-lein i ymgeiswyr a gwirio bod eich grŵp yn gymwys i dderbyn grant.
Gwnewch yn siŵr bod popeth y byddwch angen ei gyflwyno wrth law.

Wrth gwblhau’r ffurflen ar-lein, gofynnir chi:

  1. Lanlwytho copi o lythyr / e-bost gan berchennog y gofod yn rhoi caniatâd ichi ei drawsnewid, os yn berthnasol i’ch prosiect.
  2. Lanlwytho copi o bolisi a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion agored i niwed eich grŵp.
  3. Rhannu dolen i fideo ‘cyflwyniad cryno’ pum munud o hyd eich grŵp.
  4. Gallwch hefyd lanlwytho hyd at dri llun i ddangos inni’r gofod yr ydych yn gobeithio ei drawsnewid.


Dylai’r ffurflen gais ar-lein gael ei chwblhau gan y person fydd yn arwain y prosiect ar ran eich grŵp, bydd rhaid iddynt fod yn 18 oed neu’n hŷn.


 

Am eich Grŵp

1. Enw eich grŵp neu sefydliad.
2. Nodwch brif gyfeiriad eich grŵp neu sefydliad.
Gwlad
3. Dewiswch yr opsiwn sy’n disgrifio eich grŵp neu sefydliad orau
4. I fod yn gymwys i dderbyn grant, bydd rhaid i’ch grŵp / sefydliad fod â’r rheolaeth, polisïau a gweithdrefnau canlynol yn eu lle.
  • Cyfansoddiad neu ddogfen debyg sydd wedi ei chytuno a’i harwyddo gan eich grŵp, yn amlinellu pwrpas ac amcanion y grŵp
  • Cyfrif banc yn enw eich grŵp / sefydliad
  • Polisi cyfle cyfartal
  • Polisi diogelu plant ac oedolion agored i niwed
  • Polisi iechyd a diogelwch (yn cynnwys Covid-19)
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n addas at ddibenion y prosiect
  • Canllawiau gwirfoddoli - os yn bwysig i’r prosiect
Ticiwch yma i gadarnhau eich bod wedi darllen y rhestr hon a bod gennych bopeth sydd ei angen.


5. Lanlwythwch gopi o bolisi a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion agored i niwed eich grŵp. Rydym angen sicrhau eu bod yn cyd-fynd â rhai RBG, Kew.

One file only.
256 MB limit.
Allowed types: pdf, doc, docx.
Math a ganiateir: pdf, doc, docx.
6. Nodwch, yn gryno, ers pryd y mae eich grŵp / sefydliad yn bodoli ac am unrhyw brosiectau blaenorol yr ydych wedi eu cwblhau. (Hyd at 300 o eiriau)

Stay in touch

We're passionate about UK native plants and fungi, and how they can help people grow and learn together. Sign up to find out more!