Mae’r dudalen hon yn dweud popeth yr ydych angen ei wybod am sut i ymgeisio ar gyfer Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt.
Unwaith ichi ddarllen trwy’r rhestr wirio ar y dudalen hon, cliciwch ar y botwm isod i gyflwyno eich cais trwy’r ffurflen ar-lein.
Rhestr Wirio Ymgeisio
Cwblhewch y pedwar cam isod i wneud yn siŵr eich bod yn barod i ymgeisio i Raglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt 2024.
Darllenwch ein arweiniad i ymgeiswyr.
Sut i greu eich 'cyflwyniad cryno'
Casglwch eich grŵp at ei gilydd a dechrau cynllunio eich ‘cyflwyniad cryno’ - fideo (dim hwy na 5 munud) yn cynnwys:
1. Cyflwyno eich grŵp.
2. Beth yw eich syniad am brosiect a sut fyddwch yn ei gyflawni.
3. Y gofod yr ydych am ei drawsnewid, gallwch ddangos neu ddisgrifio hwn.
4. Sut fydd eich prosiect yn cael effaith positif ar gyfer bioamrywiaeth yn cynnwys tyfu planhigion brodorol y DU.
5. Pwy fyddwch yn eu cynnwys yn y prosiect a sut y byddant yn cael budd ohono.
Mae llawer o ffyrdd i greu eich fideo, (mae gennym fwy o ddiddordeb yn eich syniadau nag yn eich sgiliau creu ffilm)
- ’Does dim rhaid ichi fod ar gamera.
- Gallwch ffilmio eich gofod, gan ddarparu disgrifiad llais neu isdeitlau.
- Gallech gyfweld aelodau eraill o’ch grŵp neu’r gymuned ehangach, i egluro pam fod eich syniad prosiect yn un gwych.
- Os yw creu fideo yn anodd i’ch grŵp oherwydd anghenion mynediad penodol, cysylltwch gyda Tyfu’n Wyllt i drafod syniad amgen addas.
Dylech gynnwys dolen i’ch fideo ar gyfer eich ffurflen gais.
- Efallai y bydd yn haws lanlwytho eich fideo i safwe rhannu fel YouTube neu Vimeo
- Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd i wneud yn siŵr nad yw eich fideo ar gael i’w gwylio gan y cyhoedd, os nad ydych am iddynt ei gweld, ond gwnewch yn siŵr bod eich dolen ar agor i Tyfu’n Wyllt ei gwylio.
Cofiwch sicrhau eich bod wedi derbyn caniatâd gan y cyfranogwyr i gyd sydd mewn unrhyw luniau neu fideos gaiff eu cynnwys yn eich cais.
Gwnewch yn siŵr bod y cyfranogwyr wedi cael gwybod y caiff y cynnwys ei rannu gyda Tyfu’n Wyllt. Os yw’r rhain yn cynnwys pobl dan 18 oed, bydd rhaid ichi dderbyn caniatâd gan eu rhieni neu warcheidwad.
Edrychwch dros y cwestiynau ymgeisio mewn da bryd cyn y dyddiad cau, fel y gallwch baratoi’r wybodaeth angenrheidiol. Sylwer: ni allwch gadw eich atebion wrth fynd ymlaen ar y ffurflen gais unwaith ichi ei chychwyn.
Ar y ffurflen gais, bydd angen ichi gynnwys:
- dolen i’ch ‘cyflwyniad cryno’ 5 munud o hyd
- polisi a gweithdrefnau diogelu eich grŵp
- tystiolaeth o ganiatâd gan y tirfeddiannwr ar gyfer safle’r prosiect
- eich cynllun cyllideb ac amserlen
Darllenwch a lawrlwythwch y cwestiynau sydd ar y ffurflen gais:
Tyfu’n Wyllt Grantiau Cymunedol - Cwestiynau 2024.pdf.pdfBydd angen ichi lanlwytho’r ddogfen hon i’r ffurflen gais pan fyddwch yn ymgeisio.
Mae’r cynllun cyllideb a’r amserlen yn rhoi mwy o fanylion inni ynghylch pryd yr ydych yn bwriadu cynnal eich gweithgareddau a sut y byddwch yn defnyddio’r arian grant. Cewch arweiniad llawn ar sut i gwblhau’r rhain yn y templed a ddarperir isod.
Lawrlwytho’r templed amserlen a chynllun cyllideb:
Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt - templed amserlen a chynllun cyllideb.docxBarod i ymgeisio?
Cwblhau a chyflwyno’r ffurflen gais
Cofiwch, os oes gennych gwestiynau neu os ydych angen help, e-bostiwch hellogrowwild@kew.org neu galwch ni ar 07824 104 623.
Am y broses ddethol
Bydd ceisiadau’n cau ar: 3pm, 30 Ionawr 2024
1. Ar ôl y dyddiad cau i ymgeisio, bydd Tyfu’n Wyllt yn adolygu pob cais a dderbyniwyd.
- Dyrennir grantiau i brosiectau sy’n ateb orau’r meini prawf ymgeisio ac amcanion rhaglen Tyfu’n Wyllt.
2. Bydd Tyfu’n Wyllt yn hysbysu grwpiau llwyddiannus trwy e-bost ym mis Ebrill 2024.
- Oherwydd nifer y ceisiadau, sylwer na all Tyfu’n Wyllt gyflwyno adborth ar gyfer ceisiadau aflwyddiannus.
Sylwer: Mae Tyfu’n Wyllt yn cadw’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol ynghylch pa grwpiau fydd yn derbyn grant ac ni chaniateir unrhyw drafodaeth ynghylch y penderfyniad hwn.