Arweiniad i ymgeiswyr

Image
plants with people in background

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn English

Mae Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt yn cefnogi grwpiau i drawsnewid gofodau trefol er budd pobl a bywyd gwyllt trwy blannu ac eiriol dros blanhigion brodorol y DU. 

Mae’r cyfle hwn yn fwy na dim ond cefnogaeth ariannol – rydym yn chwilio am grwpiau fydd yn croesawu popeth sydd gan y rhaglen i’w gynnig ac fydd yn awyddus i gyfranogi’n weithredol. 

Darllenwch y dudalen arweiniad hon yn ofalus cyn ymgeisio i ymuno â Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt.

Sefydliadau nid-er-elw:

 

  • Megis grwpiau gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol
  • grwpiau trigolion
  • cymdeithasau cymunedol
  • awdurdodau / byrddau iechyd

 

Yn anffodus ni allwn ariannu: 

 

  • Ysgolion – cadwch lygad am ein Prosiectau Ieuenctid fydd yn lansio ddechrau 2024 
  • Awdurdodau Lleol yn uniongyrchol – ond fe allwn ariannu prosiectau gaiff eu harwain gan grwpiau annibynnol ar dir Awdurdod Lleol 
  • Unig fasnachwyr neu unigolion  
  • Prosiectau ble y gellid defnyddio cyllid Tyfu’n Wyllt at fudd masnachol  
  • Mudiadau a phrosiectau sydd wedi eu lleoli y tu allan i’r DU. 

 

Bydd Tyfu’n Wyllt ond yn gallu ariannu prosiectau mewn lleoliadau trefol. 

 

Ni all Tyfu’n Wyllt gefnogi prosiectau a drosglwyddir mewn ardaloedd gwledig, cadwraeth neu warchodedig, fel SoDdGA.  Yn ogystal, ni all Tyfu’n Wyllt ariannu prosiectau sydd angen caniatâd cynllunio, oherwydd amserlen y rhaglen. 

Fel canllaw, rydym yn diffinio gwledig fel aneddiadau sydd â llai na 10,000 o drigolion. 

Os ydych yn ansicr os yw eich grŵp neu eich syniad am brosiect yn gymwys i dderbyn grant,  e-bostiwch hellogrowwild@kew.org am gyngor neu galwch Tyfu’n Wyllt ar 07824 104 632. 

1. Dau aelod o staff neu wirfoddolwyr fydd yn gallu trafod gyda Tyfu’n Wyllt:

  • Prif gyswllt prosiect. Y person fydd yn gyfrifol am drosglwyddo’r prosiect a’r prif berson cyswllt ar gyfer Tyfu’n Wyllt.
  • Ail gyswllt. Yn ddelfrydol, rhywun mewn uwch-swyddogaeth ac sy’n ariannol atebol, e.e. ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr. 
  • Bydd angen i’r personau cyswllt hyn fod yn 18 oed neu drosodd ac ni allant berthyn i’w gilydd trwy unrhyw gysylltiad teuluol.
     

2. Ei gyfrif banc ei hun, yn enw eich grŵp

  • Byddwn angen gweld tystiolaeth o hyn cyn inni dalu eich grant
     

3. Gofynnwch am ganiatâd perchennog y tir.

  • We’ll ask you to provide evidence of this permission when you apply. This can be in the form of a letter or email from the landowner, you'll be prompted to upload a copy of this when you complete the application form.
     

4. Cyfansoddiad diweddar, neu ddogfen lywodraethu debyg, sy’n amlinellu eich pwrpas, nodau ac amcanion.

  • Dylai hon fod wedi ei chytuno a’i harwyddo gan fwrdd eich grŵp.
     

5. Y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol yn eu lle, er mwyn sicrhau y gallwch gwblhau eich prosiect yn ddiogel ac yn gyfrifol. Dyma restr o’r hyn fyddwn ei angen:

  • Polisi cyfle cyfartal  
  • Polisi a gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion agored i niwed  
  • Polisi iechyd a diogelwch
  • Canllawiau gwirfoddoli - os yn bwysig i’r prosiect 
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, sy’n briodol ar gyfer gweithgareddau’r prosiect. 

Sylwer: Gofynnir ichi lanlwytho eich polisi a gweithdrefnau diogelu wrth ymgeisio. Fyddwn ni ddim angen gweld tystiolaeth o’r polisïau eraill ar y rhestr yn ystod y cyfnod ymgeisio, ond gallwn ofyn amdanynt yn nes ymlaen.  

Dyrennir grantiau i syniadau prosiect sy’n cyflawni orau’r criteria:

 Prosiectau sy’n trosglwyddo gweithgareddau plannu / tyfu, gyda ffocws ar blanhigion brodorol y DU a chyfoethogi bioamrywiaeth lleol.

  • Gallwch hefyd ddefnyddio eich grant i ddenu pobl i ymuno â’ch prosiect trwy weithdai, digwyddiadau a gweithgareddau dysgu, ond dylai tyfu fod wrth galon y prosiect.
  • Dylai’r prosiectau annog natur i ffynnu, gan gael effaith positif ar gyfer pryfed peillio, adar a bywyd gwyllt arall. 
     

Prosiectau fydd yn trawsnewid gofod trefol  

  • Gallai’r mannau fod yn lleoliad unigol, fel gardd mewn canolfan gymunedol neu’n nifer o leoliadau llai o faint a gysylltir trwy weithgarwch y grŵp.   
     

 Prosiectau fydd yn cynnwys ac o fudd i’r gymuned leol. 

  • Dylai prosiectau fod â’r potensial i gyrraedd o leiaf 300 o bobl.   
     

Prosiectau gaiff eu harwain gan grwpiau sy’n malio am yr amgylchedd ac fydd yn defnyddio deunyddiau ac arferion cynaliadwy.

  • Bydd Tyfu’n Wyllt yn gofyn i bob grŵp llwyddiannus i ddim ond prynu compost di-fawn.  
     

Prosiectau fydd yn gweithio gydag un neu fwy o gynulleidfaoedd targed Tyfu’n Wyllt:

  • Pobl ifanc (12-25 oed) 
  • Pobl sy’n profi rhyw fath o anfantais neu lai o fynediad i wasanaethau  
  • Pobl sy’n ymgysylltu llai gydag eraill yn eu cymuned leol  
  •  Pobl sy’n wynebu rhwystrau i gysylltu gyda natur 
  • Pobl anabl.
     

 Prosiectau y gellir eu cwblhau’n gyfforddus o fewn amserlen y rhaglen.

  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn eu grant ym mis Ebrill 2024. 
  • Mae angen i’r grant gael ei wario erbyn diwedd mis Hydref 2024. 

Gellir defnyddio grant oddi wrth Tyfu’n Wyllt i dalu am holl gostau a gweithgareddau penodol eich prosiect. 

  • Gall hyn gynnwys hadau, planhigion, pridd, deunyddiau, digwyddiadau, costau gweithdai, arbenigwyr penodol a chostau contractwyr. 
  • Ni ellir defnyddio’r grant i brynu eitemau sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect. 
  • Dylid osgoi cyllidebau sydd ond yn talu am seilwaith ffisegol, cofiwch gynnwys costau cael pobl leol i gymryd rhan. 
     

Gall ymgeiswyr ddyrannu hyd at £500 o grant Tyfu’n Wyllt tuag at gostau staff sy’n ymwneud â throsglwyddiad uniongyrchol gweithgareddau’r prosiect. 

  • Gall hyn gynnwys paratoi a throsglwyddo gweithdai, cymorth gan wirfoddolwyr, sesiynau ymarferol. 
  • Ni ellir defnyddio grantiau Tyfu’n Wyllt i dalu am gostau sefydliadol craidd nac am gostau staff sydd ddim yn ymwneud â throsglwyddiad uniongyrchol y prosiect. 
     

Gellir defnyddio grantiau i dalu i unigolion nad ydynt yn cael eu cyflogi gan y grŵp neu sefydliadau partner i drosglwyddo gweithgareddau prosiect.  

  • Bydd rhaid i’w gweithgareddau fod yn berthnasol i nodau’r prosiect a’r deilliannau arfaethedig 
  • Gallai hyn gynnwys cymorth gydag agweddau technegol e.e. amodau safle penodol, priddoedd, adnabod planhigion, technegau tirlunio neu adeiladu  
     

Nid ydym yn gofyn am arian cyfatebol ac ni chaiff ei sgorio fel rhan o gais eich grŵp. 

  • Os oes gennych ariannu arall ar gyfer prosiectau cysylltiedig fydd yn cael eu cynnal yn yr un gofod, gallwch ddweud wrth Tyfu’n Wyllt am hyn yn eich cais. 
  • Mae Tyfu’n Wyllt yn disgwyl y gellir trosglwyddo’r prosiect a ddisgrifir yn y cais yn gyfforddus gyda grant Tyfu’n Wyllt, yn annibynnol o unrhyw ariannu arall. 

Mae Tyfu’n Wyllt yn chwilio am grwpiau fydd yn awyddus i ymwneud â phob agwedd o’r rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys: 

Rhoi gwybod i Tyfu’n Wyllt sut mae eich prosiect yn mynd.  

  • Cadw mewn cysylltiad a rhannu lluniau o’ch prosiect ar waith  
  • Cwblhau arolygon gwerthuso syml, er mwyn helpu Tyfu’n Wyllt i fesur effaith y Rhaglen Gymunedol hon.

 

Mynychu hyfforddiant ar-lein Tyfu’n Wyllt, i gysylltu a rhannu profiadau. 

  • Dylai arweinwyr prosiect allu ymrwymo i tua dwy neu dair awr y mis o fis Ebrill i fis Hydref 2024. 
  • Gallai gweithgareddau dilynol i grwpiau roi tro arnynt gynnwys cyfrif peillwyr ac arolygon natur. 
  • Fel arfer, cynhelir sesiynau yn ystod y dydd neu gyda’r nos yn ystod yr wythnos, a byddwn yn anelu i bennu amserau fydd yn gweithio i’r mwyafrif. 

     

Cynorthwyo Tyfu’n Wyllt i greu astudiaeth achos am weithgarwch eich grŵp. 

  • Efallai y bydd Tyfu’n Wyllt yn gofyn i gael ymweld â phrosiectau’n ystod yr haf, i dynnu lluniau ac i siarad gyda chyfrnaogwyr y grŵp. 
  • Defnyddir gwybodaeth a gesglir yn ystod ymweliadau i greu astudiaethau achos i’w rhannu gyda chynulleidfa ehangach a chyllidwyr rhaglen Tyfu’n Wyllt. 

Wrth gynllunio eich prosiect, mae’n bwysig ystyried unrhyw risgiau cysylltiedig a sicrhau y gallwch gadw pobl yn ddiogel. 

  • TBydd angen ichi ystyried iechyd a diogelwch pawb sy’n gysylltiedig â’ch prosiect. 
  • Bydd rhaid ichi fod ag asesiadau risg priodol yn eu lle ar gyfer eich holl weithgareddau.  
  • Bydd rhaid ichi hefyd feddu ar bolisi a gweithdrefnau diogelu effeithlon i warchod pobl dan 18 oed ac oedolion agored i niwed sy’n rhan o’ch prosiect.  
  • Gwnewch yn siŵr bod gan eich grŵp yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol yn ei le ar gyfer eich gweithgareddau.
     

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am unrhyw beryglon yn lleoliad eich prosiect. 

Cyfrifoldeb eich grŵp fydd ymchwilio a deall y gofod yr ydych yn bwriadu ei drawsnewid, gan wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer eich gweithgareddau arfaethedig.  

Mae hyn yn cynnwys: 

  • Gwirio lleoliad unrhyw wasanaethau tanddaearol, fel ceblau a phibau os byddwch yn tyllu. Gall cwmnïau cyfleustodau lleol, ar gais, gyflenwi mapiau sy’n dangos lleoliad eu hoffer, weithiau codir tâl am y gwasanaeth hwn.  
  • Bod yn ymwybodol o unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n lleol i’r prosiect  
  • Chwilio am bresenoldeb sbwriel peryglus, fel gwydr wedi torri neu gyfarpar cyffuriau  

Os nad ydych yn siŵr, siaradwch trwy hyn yn ofalus gyda pherchennog y tir. 
 

Ymgysylltwch gyda phobl yn ardal leol eich prosiect.  

  • Cyn ymgeisio am grant, gwiriwch na fydd y gweithgareddau yr ydych yn eu cynllunio’n cael effaith andwyol ar sut y bydd rhanddeiliaid eraill yn defnyddio neu’n profi gofod cymunedol. Efallai y bydd gan bobl syniadau gwych i helpu i wneud eich prosiect hyd yn oed yn well! 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd tîm Tyfu’n Wyllt wrth law i ddarparu cefnogaeth prosiect cyffredinol a chymorth gydag unrhyw ymholiadau fydd gennych am eich grant.  

Yn ogystal, bydd tîm Tyfu’n Wyllt yn darparu rhaglen o sgyrsiau a hyfforddiant ar-lein, ac yn cysylltu grwpiau er mwyn annog cefnogaeth cymheiriaid. 

Mae’n bwysig nodi na fydd tîm Tyfu’n Wyllt yn gallu eich cynghori gydag unrhyw agweddau technegol neu ddydd-i-ddydd o drosglwyddo eich prosiect. Er enghraifft, unrhyw amodau safle penodol, priddoedd, adnabod planhigion, tirlunio neu dechnegau adeiladu. 
 

Gofynnwn ichi holi arbenigwyr lleol am y math yma o gymorth. Un ai unigolion gwybodus y mae eich grŵp yn eu hadnabod neu sefydliadau lleol, sydd â’r sgiliau angenrheidiol. Efallai y rhoddir hyn am ddim, neu gallwch ddefnyddio cyfran o’ch grant i dalu am y cymorth hwn.  


Yn y ffurflen gais rydym yn gofyn ichi ddweud wrthym am unrhyw grwpiau partner, sefydliadau neu unigolion fydd yn helpu i wneud eich prosiect yn llwyddiant.   


Mae ffynonellau defnyddiol ar gyfer derbyn cymorth a gwybodaeth yn cynnwys:  

Ar gyfer eich cais, bydd angen ichi baratoi 'cyflwyniad cryno' - fideo 5 munud o hyd sy’n dweud wrthym am eich prosiect arfaethedig.

Bydd angen hefyd i chi gwblhau ein templed amserlen a chyllideb i’w lanlwytho i’r ffurflen gais.

Am fanylion pellach am yr uchod, darllenwch y Rhestr Wirio Ymgeisio ar y dudalen ymgeisio.

Stay in touch

We're passionate about UK native plants and fungi, and how they can help people grow and learn together. Sign up to find out more!