Arweiniad Ymgeisio am Grant Ieuenctid

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn English

Mae’r dudalen hon yn cynnwys arweiniad allweddol ar gyfer Ymgeiswyr yn ogystal â Sefydliadau Cefnogol. Cofia ddarllen y wybodaeth i gyd yn ofalus cyn cychwyn ar dy gais.

Arweiniad i Ymgeiswyr 

Rydym yn gwahodd pobl ifanc rhwng 14-25 oed o bob cwr o’r DU i… 

‘Feddwl am syniad am brosiect i ddathlu a rhannu pam fod planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU mor arbennig’ 

Dyddiad Cau i Ymgeisio: 3pm ar 19eg Mawrth 2024 

Gellir cychwyn ar brosiectau llwyddiannus ym mis Mai a bydd rhaid eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2024.   

 

I ymgeisio, dilyn y camau hyn: 

Mae Tyfu’n Wyllt yn chwilio am … 

Brosiectau sy’n canolbwyntio ar blanhigion a / neu ffyngau brodorol y DU. 

  • Brosiectau fydd yn cynnwys neu’n denu pobl eraill. Dylet anelu i rannu dy brosiect gydag o leiaf 100 o bobl. Gall hyn gynnwys pobl sy’n cymryd rhan yn uniongyrchol a phobl sy’n ymgysylltu gyda chynnwys ar-lein neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol am dy brosiect 
  • Prosiectau sydd o fudd i bobl eraill. Meddwl am yr effaith positif gaiff dy brosiect ar bobl eraill a dywed wrthym am hyn! 
  • Prosiectau fydd yn gwneud defnydd da o’r grant o £500 – dyweda sut y byddi’n defnyddio’r arian i greu’r effaith mwyaf. Meddylia beth fydd angen iti ei brynu neu dalu amdano os bydd dy gais yn llwyddiannus. Gall hyn gynnwys unrhyw offer neu ddeunyddiau, hyfforddiant, adnoddau, neu gymorth arbenigol y byddi ei angen. Sylwer: ni alli ddefnyddio’r grant i dalu cyflog i dy hun. 
  • Prosiectau fydd yn dal y llygad a’r dychymyg - bydd yn wreiddiol a meddwl am rywbeth cyffrous! Darllen ein awgrymiadau ychwanegol am fwy o ysbrydoliaeth.

 

Darllenwch ein cynghorion ychwanegol

 

Pwysig: Os oes gennyt ofod neu leoliad penodol mewn golwg ar gyfer gweithgareddau dy brosiect, bydd angen iti dderbyn caniatâd ysgrifenedig oddi wrth y perchennog neu’r rheolwr cyn ymgeisio. Mae’n bosibl y bydd Tyfu’n Wyllt yn gofyn i weld tystiolaeth o hyn cyn dyfarnu grant i ti. 

Sylwer – ni all Tyfu’n Wyllt gefnogi prosiectau tyfu a drosglwyddir mewn ardaloedd agored o gefn gwlad, neu ardaloedd cadwraeth neu a warchodir, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). 

Yn ogystal, ni all Tyfu’n Wyllt ariannu prosiectau sy’n galw am ganiatâd cynllunio, oherwydd amserlen y rhaglen. 

If you are unsure if your project idea is eligible for a grant, please email Grow Wild for advice or call Grow Wild on 07824 104 632  

Bydd rhaid iti enwebu sefydliad ieuenctid, cymunedol neu addysgol i dy gefnogi gyda dy brosiect. Meddylia am gysylltiadau sydd gennyt eisoes neu hola sefydliadau lleol fel dy ysgol neu brifysgol, grŵp ieuenctid, elusen neu awdurdod lleol. 

Bydd dy Sefydliad Cefnogol yn: 

  • dy helpu i redeg dy brosiect 
  • cadw’r grant o £500 ar dy ran  
  • sicrhau y galli gwblhau dy brosiect yn ddiogel 

Wrth chwilio am gymorth gan sefydliad, cofia ddangos yr Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol iddynt, fel eu bod yn gwybod beth fyddi’n ei ddisgwyl ganddynt. 

Os wyt ti neu unrhyw aelod o’r grŵp o dan 18 oed, cofia wneud yn siŵr bod y sefydliad cefnogol yn gwybod hyn. Yn ogystal, bydd rhaid i bawb dan 18 oed dderbyn caniatâd gan riant / gwarcheidwad cyn ymgeisio. 

Ddylai dy fideo fod dim hirach na dau funud. A dyna ni! 

Fyddi di ddim angen offer cymhleth ar gyfer hyn - mae ffôn symudol yn iawn. 

Mae nifer o wahanol ffyrdd i greu dy fideo, (mae gennym fwy o ddiddordeb yn dy syniadau na dy sgiliau ffilmio) 

  • ’Does dim rhaid iti ymddangos o flaen y camera. 
  • Fe allet ti gyflwyno disgrifiad sain neu is-deitlau. 
  • Fe allet ti gyfweld aelodau eraill o dy grŵp neu gymuned ehangach, yn egluro pam fod y syniad prosiect yn wych. 

Os bydd creu fideo yn anodd i ti, rho wybod i ni yma yn Tyfu’n Wyllt. Byddwn yn barod iawn i gynnig dull amgen i bobl sydd ag anghenion mynediad penodol. 

 

Yn y fideo, cofia gynnwys: 

  • Enw bachog dy brosiect – a r gyfer grwpiau, noda hefyd enw eich tîm os oes gennych un. 
  • Dy syniad prosiect a pham dy fod am ei wneud. 
  • Eglurhad am sut y bydd yn dathlu planhigion a / neu ffyngau brodorol y DU. 
  • Manylion ble fyddi di’n cwblhau dy brosiect. 
  • Manylion pwy fyddi di’n eu cynnwys. Beth fyddan nhw’n ei wneud neu’n ei brofi. 
  • Crynodeb o sut y byddi di’n gwario’r £500.   

 

Pwysig: Os byddi’n defnyddio safle rhannu fideos, fel YouTube neu Vimeo, gwna’n siŵr nad ydi dy fideo i’w gweld yn gyhoeddus. Dylet ond rhannu’r ddolen gyda’r bobl sydd angen ei gweld. 

Cofia sicrhau dy fod wedi derbyn caniatâd gan bawb sydd yn y fideo ac wedi dweud wrthyn nhw y bydd yn cael ei rannu gyda. Tyfu’n Wyllt. Os wyt ti neu unrhyw berson ifanc yn y fideo cais o dan 18 oed, bydd rhaid i riant / gwarcheidwad roi caniatâd iti / iddynt gymryd rhan. 

 

Ymgeisio fel unigolion  

Byddwn yn gofyn iti gynnwys manylion cyswllt ar gyfer dy hun a’r person fydd yn dy gynorthwyo o dy Sefydliad Cefnogol. 

Mae’n bwysig bod Tyfu’n Wyllt yn gallu cysylltu gyda’r ddau ohonoch trwy gydol yr haf.  

 

Ymgeisio fel grŵp 

Gall grwpiau gynnwys hyd at 6 aelod. Os ydych yn ymgeisio fel grŵp, bydd angen ichi enwebu un person i gwblhau’r ffurflen gais, a gweithredu fel cynrychiolydd eich grŵp. Y person hwn / hon fydd y prif berson cyswllt ar gyfer Tyfu’n Wyllt a nhw hefyd fydd yn arwyddo gwaith papur y grant, ynghyd â’r person cyswllt o’ch Sefydliad Cefnogol.   

  • Gofynnir ichi gynnwys enwau a dyddiadau geni pawb yn eich grŵp. Felly cofiwch wneud yn siŵr bod pawb yn fodlon i’r wybodaeth yma gael ei rhannu gyda Tyfu’n Wyllt. 
  • Bydd angen i bawb sydd wedi eu rhestru fel aelodau o’ch grŵp fod rhwng 14-25 oed ar y dyddiad cau, sef 19eg Mawrth 2024. 
  • Gofynnir ichi gynnwys enw a manylion cyswllt y person fydd yn eich helpu o’ch Sefydliad Cefnogol.

Mae’n bwysig bod cynrychiolydd eich grŵp a’ch Sefydliad Cefnogol yn hapus ac ar gael i Tyfu’n Wyllt gysylltu gyda nhw’n rheolaidd trwy gydol yr haf. 

Fe dderbyniwch hysbysiad trwy e-bost i roi gwybod os bu eich cais yn llwyddiannus erbyn diwedd mis Ebrill 2024. 

Pob lwc! 

Image
Someone sitting in front of a wall painted with a colourful flower mural
Garden of earthly delights, credyd Ines Stuart-Davidson/ RBG Kew

 

Arweiniad i Sefydliadau Cefnogol 

Cefnogwch berson ifanc i ymgeisio am grant o £500 a rhedeg eu prosiect cyffrous eu hunain.  

Ar y dudalen hon cewch hyd i arweiniad am rôl Sefydliad Cefnogol a pha sefydliadau sy’n gymwys. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi darllen yr arweiniad i ymgeiswyr. 

Bydd rhaid i brosiectau, boed yn brosiectau unigol neu grŵp (o hyd at 6 o aelodau), gael Sefydliad Cefnogol gyda pherson cyswllt enwebedig i weithio gyda nhw. 

Nid yw Tyfu’n Wyllt yn gallu gwneud taliadau i unigolion - felly, bydd Sefydliadau Cefnogol cymwys yn derbyn y grant ar ran yr ymgeisydd y maent yn ei gynorthwyo. 

Tra y bydd tîm Tyfu’n Wyllt yn cynnig cefnogaeth gyffredinol i’r bobl ifanc, bydd arweiniad ar reoli’r prosiect o ddydd-i-ddydd yn rhan o gyfrifoldeb y Sefydliad Cefnogol. 

Ar wahân i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, neu sydd angen mwy o gefnogaeth, byddwn yn annog y person ifanc sy’n ymgeisio i fod yn gyfrifol am eu prosiect. 

Gall Sefydliadau Cefnogol gynorthwyo nifer o brosiectau, cyn belled â’u bod yn gwbl unigol. 

Fel Sefydliad Cefnogol bydd rhaid ichi: 

 

1. Fod yn sefydliad hirsefydlog a pherthnasol sydd â diben elusennol neu nid-er-elw. Yn benodol: 

  • Grŵp gwirfoddol, ieuenctid neu gymunedol 
  • Corff addysgol 
  • elusen gelfyddydol neu amgylcheddol 
  • Awdurdod Lleol neu gorff cyngor arall 
  • Awdurdod Iechyd 

 

2. Gallu darparu aelod o staff neu wirfoddolwr/wraig: 

  • i gyfathrebu gyda Tyfu’n Wyllt 
  • i gefnogi’r person ifanc / grŵp fel bo angen, e.e. defnyddio cyfleusterau ac offer, rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau, darparu cyngor ac arweiniad, diogelu unigolion dan 18 oed neu oedolion bregus 
  • fydd ar gael trwy oes llawn y prosiect 

 

3. Bod yn ariannol gyfrifol am y prosiect gyda: 

  • chyfrif banc yn enw eu sefydliad, neu yn enw awdurdod lleol / corff sector cyhoeddus arall, ble fo’n briodol 

 

NID yw’r sefydliadau canlynol yn gymwys: 

 

  • Busnesau preifat sy’n gweithredu er elw ac sydd â dim diben cymdeithasol 
  • Sefydliadau sydd â phwrpas masnachol yn unig 
  1. Cynorthwyo gyda’r cais a rheoli’r grant: 
  • Cefnogi’r person ifanc / grŵp gyda chynllunio eu prosiect a pharatoi eu cais. 
  • Sicrhau bod caniatâd ysgrifenedig yn ei le gan berchennog neu reolwr unrhyw ofodau neu leoliadau ble trosglwyddir gweithgareddau’r prosiect. 
  • Derbyn y grant ar ran y person ifanc / grŵp. 
  • Sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario fel yr amlinellir yn y cais ac yn unol â chanllawiau Tyfu’n Wyllt. 

 

Sylwer – ni all Tyfu’n Wyllt gefnogi prosiectau tyfu a drosglwyddir mewn ardaloedd agored o gefn gwlad, neu ardaloedd cadwraeth neu a warchodir, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). 

Yn ogystal, ni all Tyfu’n Wyllt ariannu prosiectau sy’n galw am ganiatâd cynllunio, oherwydd amserlen y rhaglen. 

 

  2. Cyfathrebu a goruchwylio: 

  • cefnogi’r person ifanc gyda throsglwyddiad y prosiect o ddydd-i-ddydd, gan gynnwys cwrdd gyda’r person ifanc yn rheolaidd i drafod y prosiect a darparu cyngor ac arweiniad fel bo angen. 
  • Cysylltwch gyda Tyfu’n Wyllt os dewch i wybod nad yw’r prosiect yn cael ei drosglwyddo fel y trefnwyd. 

 

  3. Iechyd, diogelwch a hygyrchedd: 

  • Trafod a chynllunio gyda’r person ifanc / grŵp sut gaiff y prosiect ei drosglwyddo’n ddiogel. 
  • Sicrhau iechyd, diogelwch, a lles pawb sy’n cyfranogi trwy gydol oes y prosiect, yn cynnwys diogelu pobl ifanc dan 18 oed ac oedolion bregus.  
  • Sicrhau bod y prosiect yn hygyrch i bawb sy’n cyfranogi – gan roi ystyriaeth benodol i grwpiau ac unigolion sydd ag anghenion ychwanegol. 

 

  1. Cyflwyno dogfennau  

Bydd angen i Tyfu’n Wyllt weld copi o’r dogfennau canlynol cyn y gellir rhyddhau’r cyllid: 

  • Cyfansoddiad (neu ddogfen debyg a gytunwyd gan y Sefydliad Cefnogol) yn amlinellu pwrpas ac amcanion y sefydliad, neu dystiolaeth bod y sefydliad yn rhan o awdurdod lleol neu gorff sector cyhoeddus arall. 
  • Polisi a gweithdrefnau diogelu. 

Mae’n bosibl y gofynnir hefyd am ddogfennau ychwanegol a thystiolaeth o wiriadau datgelu perthnasol (sy’n benodol i’r wlad unigol) os bydd cais yn llwyddiannus: 

  • Polisi cyfle cyfartal. 
  • Polisi a gweithdrefnau iechyd a diogelwch. 
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n addas ar gyfer y prosiect arfaethedig. 
  • Canllawiau gwirfoddoli. 
  • Caniatâd ysgrifenedig gan berchennog neu reolwr unrhyw ofodau neu leoliadau ble trosglwyddir gweithgareddau’r prosiect. 

 

Mewn achosion ble mae’r prosiect yn cynnwys pobl ifanc dan 18 oed, pobl sydd ag anghenion ychwanegol, a / neu oedolion bregus, bydd gan y Sefydliad Cefnogol y cyfrifoldebau ychwanegol canlynol: 

 

  1. Sicrhau bod caniatâd rhiant / gwarcheidwad yn ei le er mwyn i: 
  • Bobl ifanc ymgeisio, arwain a chymryd rhan mewn gweithgareddau a drosglwyddir fel rhan o’r prosiect (*gweler y nodyn isod). 
  • Pobl ifanc i ymddangos yn y fideo cais. 

 

  1. Gwiriadau datgelu a diogelu: 
  • sicrhau bod pob aelod o staff a’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda’r prosiect, wedi derbyn gwiriad datgelu (sy’n berthnasol i’w lleoliad yn y DU a’r gweithgareddau dan sylw) a’u bod wedi derbyn hyfforddiant priodol i gefnogi’r grŵp a’i weithgareddau. 
  • diogelu plant dan 18 oed a / neu oedolion bregus tra eu bod yn cymryd rhan yn y prosiect (yn cynnwys unrhyw weithgarwch perthnasol ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol). 

 

* Oherwydd polisïau diogelu plant a diogelu data Kew, ble fo arweinydd y prosiect dan 18 oed, bydd Tyfu’n Wyllt wastad yn cysylltu gyda chi fel y Sefydliad Cefnogol ym mhob gohebiaeth am gais arweinydd y prosiect ac, os yn llwyddiannus, y prosiect ei hun.

** Os ydych yn cefnogi cais oddi wrth berson ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, cysylltwch gyda Tyfu’n Wyllt i roi gwybod i ni. Mae hyn fel y gallwn sicrhau y caiff hyn ei ystyried ac fel y gallwn drafod y ffordd orau i Tyfu’n Wyllt gefnogi a chyfathrebu gyda nhw am eu prosiect. 

 

Gwobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc Kew  

Gwahoddir pob ymgeisydd llwyddiannus i gwblhau y dyfarniad newydd Gwobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc Kew (YELA) ochr-yn-ochr â’u prosiect, unai fel unigolyn neu fel rhan o grŵp. Mae’r wobr a’r fenter hyfforddi hon yn anelu i atgyfnerthu arweinyddion ifanc, gan gynyddu eu sgiliau a’u hyder i yrru newid amgylcheddol yn eu cymunedau. Mae’r wobr, sydd wedi ei dylunio i alinio’n berffaith gyda’u Prosiect Ieuenctid Tyfu’n Wyllt, yn sicrhau y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud y mwyaf o’r cyfle grant ac yn derbyn cydnabyddiaeth oddi wrth Erddi Botaneg Brenhinol, Kew i’w ychwanegu i’w CV neu bortffolio. 

Mae cofrestru ar gyfer y wobr yn ddewisol, ond rydym yn eich annog i gefnogi eich ymgeiswyr i gymryd rhan. Bydd Tyfu’n Wyllt yn darparu hyfforddiant ar-lein, adnoddau ac adborth. Mae eich rôl chi’n cynnwys cefnogaeth o ddydd-i-ddydd, ateb unrhyw gwestiynau a threfnu cyfarfodydd cynnydd, er mwyn sicrhau cwblhau’r wobr ar amser.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle hwn yn agored i bawb. Os ydych chi’n cefnogi person ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu oedolyn bregus, mae Tyfu’n Wyllt yn hapus i gynnig cymorth ychwanegol a threfniadau amgen ble fo angen. 

Darllenwch fwy am Wobr Arweinydd Amgylcheddol Ifanc Kew 

 

Image
hand holding sheets of brown paper with yellow flowers in the background
Papur madarch a grëwyd yn ystod Prosiect Ieuenctid YELA Mattie O'Callaghan

Barod i wneud cais?


Llenwi'r ffurflen gais ar-lein

Contact us

Unrhyw gwestiynau? Awydd sgwrsio am syniadau? Cysyllta gyda ni 

E-bostio: hellogrowwild@kew.org 

Ffonia: 07824 104 632  

Stay in touch

We're passionate about UK native plants and fungi, and how they can help people grow and learn together. Sign up to find out more!